
======================================================================
LibreOffice 5.3 Darlennwch Fi
======================================================================


I gael diweddariadau diweddaraf y ffeil darllen fi, gweler http://www.libreoffice.org/welcome/readme.html

Mae'r ffeil hon yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y LibreOffice. Argymhellir eich bod yn darllen y wybodaeth yn ofalus iawn cyn dechrau gosod.

Mae cymuned LibreOffice yn gyfrifol am ddatblygu'r cynnyrch hwn, ac yn eich gwahodd i ystyried cymryd rhan fel aelod cymunedol. Os ydych chi'n ddefnyddiwr newydd, gallwch ymweld â gwefan LibreOffice, lle mae lawer o wybodaeth am brosiect LibreOffice a'r cymunedau sy'n bodoli o'i gwmpas. Ewch i http://www.libreoffice.org/.

A yw LibreOffice am ddim ar gyfer Unrhyw Defnyddiwr?
----------------------------------------------------------------------

Mae LibreOffice ar gael yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio gan bawb. Gallwch gymryd y copi hwn o LibreOffice a'i osod ar faint bynnag o gyfrifiaduron yr hoffech chi ei wneud, a'i ddefnyddio at ba bynnag bwrpas yr hoffech chi (gan gynnwys defnydd masnachol, llywodraeth, gweinyddiaeth gyhoeddus ac addysgol). Am wybodaeth bellach gweler y testun trwyddedu o fewn y pecyn llwytho i lawr LibreOffice.

Pam mae LibreOffice am ddim ar gyfer Unrhyw Ddefnyddiwr?
----------------------------------------------------------------------

Gallwch ddefnyddio'r copi hwn o LibreOffice yn rhad ac am ddim oherwydd bod cyfranwyr unigol a noddwyr corfforaethol wedi dylunio, datblygu, profi, cyfieithu, dogfennu, cefnogi, marchnata, a chynorthwyo mewn sawl ffordd arall i wneud LibreOffice yr hyn ydyw heddiw - meddalwedd cynhyrchu amlycaf y byd Cod Agored ar gyfer y cartref ac yn y swyddfa.

Os byddwch yn gwerthfawrogi eu hymdrechion, a hoffi sicrhau fod LibreOffice yn parhau i fod ar gael ymhell i'r dyfodol, ystyriwch gyfrannu at y prosiect - gweler http://www.documentfoundation.org/contribution/ am fanylion. Gall pawb wneud cyfraniad o ryw fath.

----------------------------------------------------------------------
Nodiadau Gosod
----------------------------------------------------------------------

Mae LibreOffice angen fersiwn diweddar o'r Java Runtime Environment (JRE) ar gyfer swyddogaethau llawn. Nid yw JRE yn rhan o becyn gosod LibreOffice, rhaid ei osod ar wahan.

Anghenion y System
----------------------------------------------------------------------

Fel rheol gyffredinol, argymhellir eich bod yn gosod LibreOffice drwy'r dulliau gosod a argymhellwyd gan eich dosbarthiad Linux penodol (ee Canolfan Meddalwedd Ubuntu, yn achos Ubuntu). Mae hyn oherwydd mai dyma'r ffordd symlaf i osod a gaiff ei hintegreiddio orau i'ch system. Yn wir, gall fod LibreOffice eisoes wedi ei osod yn barod yn awtomatig pan fyddwch wedi gosod eich system weithredu Linux yn wreiddiol.

Mae'r gosodwr LibreOffice yma yn "sefyll ar ben ei hun" yn cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr sydd angen rhagolwg, rhai sydd ag anghenion arbennig, ac ar gyfer achosion allan o'r cyffredin.

* Cnewyllyn Linux fersiwn 2.6.18 neu uwch;
* glibc2 fersiwn 2.5 neu uwch;
* freetype fersiwn 2.2.0 neu uwch;
* fersiwn gtk 2.10.4 neu uwch;
* Gnome 2.16 neu uwch, gyda'r gail 1.9 a'r pecynnau at-spi 1.7 (sy'n ofynnol ar gyfer cymorth ar gyfer technoleg gynorthwyol [AT] offer), neu un arall gydnaws GUI (fel KDE, ymhlith eraill).

Mae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau Linux, ac efallai y bydd gwahanol ddewisiadau gosod (KDE, Gnome, ac ati) ar gael gan yr un gwerthwr Linux. Mae rhai dosbarthiadau'n cael eu dosbarthu gyda'u fersiwn “brodorol” eu hunain o LibreOffice, a gall fod rhai nodweddion gwahanol o'r fersiwn cymunedol hwn o LibreOffice. Mewn llawer i achos, gallwch osod y fersiwn cymunedol o LibreOffice ochr yn ochr â'r fersiwn brodorol. Fodd bynnag, efallai y byddai'n well gennych gael gwared ar y fersiwn “brodorol” cyn gosod y fersiwn hwn. Am fanylion ar sut i wneud hynny, edrychwch ar yr adnoddau cymorth defnyddiwr sy'n cael ei ddarparu gan eich gwerthwr Linux penodol.

Mae'n arfer gorau i wneud copi wrth gefn o'ch system a'ch data cyn i chi dynnu neu osod meddalwedd.

Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o gof am ddim yn y cyfeiriadur dros dro ar eich system, a gwnewch yn siŵr bod hawl darllen, ysgrifennu a rhedeg wedi ei ganiatáu. Caewch bob rhaglen arall cyn dechrau ar y broses gosod.

Gosod LibreOffice ar systemau Linux yn seiliedig ar Debian/Ubuntu
----------------------------------------------------------------------

I gael cyfarwyddiadau ar sut i osod pecyn iaith (ar ôl gosod y fersiwn Saesneg UDA o LibreOffice), darllenwch yr adran isod o'r enw Gosod Pecyn Iaith.

Wrth ddadbacio'r archif llwythwyd i lawr, byddwch yn gweld fod y cynnwys wedi cael eu datgywasgu i is-gyfeiriadur. Agorwch ffenestr rheolwr ffeiliau a newid cyfeiriadur i'r un sy'n cychwyn gyda "LibreOffice_", wedi ei ddilyn gan rif y fersiwn a rhywfaint o wybodaeth platfform.

Mae'r cyfeiriadur hwn yn cynnwys is-gyfeiriadur o'r enw "DEBS". Newidiwch y cyfeiriadur i gyfeiriadur "DEBS".

Rhowch glic de o fewn y cyfeiriadur a dewis "Agor mewn Terfynell". Bydd ffenestr terfynell yn agor. O linell orchymyn y ffenestr derfynell, rhowch y gorchymyn canlynol (byddwch yn cael eich annog i gynnig eich cyfrinair defnyddiwr gwraidd cyn bydd y gorchymyn gweithredu):

Bydd y gorchmynion canlynol yn gosod LibreOffice a'r pecynnau integreiddio bwrdd gwaith (gallwch eu copïo a'u gludo i sgrin y derfynell yn lle ceisio eu teipio):

sudo dpkg -i *.deb

Mae'r broses gosod nawr wedi ei chwblhau, a dylai bod eiconau ar gyfer yr holl raglenni LibreOffice ar ddewislen Rhaglenni/Swyddfa eich bwrdd gwaith.

Gosod LibreOffice ar Fedora, openSUSE, Mandriva a systemau Linux eraill sy'n defnyddio pecynnau RPM
----------------------------------------------------------------------

I gael cyfarwyddiadau ar sut i osod pecyn iaith (ar ôl gosod y fersiwn Saesneg UDA o LibreOffice), darllenwch yr adran isod o'r enw Gosod Pecyn Iaith.

Wrth ddadbacio'r archif llwythwyd i lawr, byddwch yn gweld fod y cynnwys wedi cael eu datgywasgu i is-gyfeiriadur. Agorwch ffenestr rheolwr ffeiliau a newid cyfeiriadur i'r un sy'n cychwyn gyda "LibreOffice_", wedi ei ddilyn gan rif y fersiwn a rhywfaint o wybodaeth platfform.

Mae'r cyfeiriadur hwn yn cynnwys is-gyfeiriadur o'r enw "RPMS". Newidiwch y cyfeiriadur i gyfeiriadur "RPMS".

Rhowch glic de o fewn y cyfeiriadur a dewis "Agor mewn Terfynell". Bydd ffenestr terfynell yn agor. O linell orchymyn y ffenestr derfynell, rhowch y gorchymyn canlynol (byddwch yn cael eich annog i gynnig eich cyfrinair defnyddiwr gwraidd cyn bydd y gorchymyn gweithredu):

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Fedora : su -c 'yum install *.rpm'

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Mandriva : sudo urpmi *.rpm

Ar gyfer systemau eraill yn seiliedig ar RPM (openSUSE, ac ati.): rpm -Uvh *.rpm

Mae'r broses gosod nawr wedi ei chwblhau, a dylai bod eiconau ar gyfer yr holl raglenni LibreOffice ar ddewislen Rhaglenni/Swyddfa eich bwrdd gwaith.

Yn lle hynny, gallwch ddefnyddio sgript 'gosod', sydd wedi ei leoli yn y cyfeiriadur lefel uchaf yr archif ar gyfer cyflawni gosod fel defnyddiwr. Bydd y sgript yn gosod LibreOffice i gael ei broffil ei hun ar gyfer y gosodiad hwn, ar wahân i'ch proffil LibreOffice arferol. Sylwch na fydd hyn yn gosod darnau integreiddio system megis eitemau dewislen bwrdd gwaith a chofrestriadau bwrdd gwaith math MIME.

Nodiadau Ynghylch Integreiddio'r Bwrdd Gwaith ar gyfer dosbarthiadau Linux sydd Heb eu cynnwys yn y Cyfarwyddiadau Gosod Uchod
----------------------------------------------------------------------

Dylai fod yn eithaf hawdd gosod LibreOffice ar ddosbarthiadau Linux eraill heb eu cynnwys yn benodol yn y cyfarwyddiadau gosod. Y prif wahaniaethau all fod mewn integreiddio’r bwrdd gwaith.

Mae'r cyfarwyddiadur RPMS (neu DEBS) hefyd yn cynnwys pecyn a enwir libreoffice5.3-freedesktop-menus-5.3.0.1-1.noarch.rpm (neu libreoffice5.3-debian-menus_5.3.0.1-1_all.deb, neu debyg). Mae hwn yn becyn ar gyfer yr holl ddosbarthiadau Linux sy'n cefnogi'r manylebau/argymhellion Freedesktop.org (http://en.wikipedia.org/wiki/Freedesktop.org), ac mae'n cael ei ddarparu ar gyfer ei osod ar ddosbarthiadau Linux eraill heb eu cynnwys yn y cyfarwyddiadau uchod.

Gosod Pecyn Iaith
----------------------------------------------------------------------

Llwythwch i lawr y pecyn iaith ar gyfer eich dewis iaith a phlatfform. Maent ar gael oddi ar yr un lleoliad a'r prif archif gosod. O'r trefnydd ffeiliau Nautilus, dynnwch yr archif i mewn i gyfeiriadur (eich bwrdd gwaith, er enghraifft). Sicrhewch eich bod allan o bob rhaglen LibreOffice (gan gynnwys CychwynCyflym, os yw wedi ei gychwyn).

Newidiwch gyfeiriadur i'r cyfeiriadur yr ydych wedi echdynnu eich pecyn iaith iddo.

Nawr newidiwch gyfeiriadur i'r cyfeiriadur a grëwyd yn ystod y broses echdynnu. Ar gyfer y pecyn Cymraeg ar gyfer systemau Debian/Ubuntu 32 did, y cyfeiriadur yw LibreOffice_ a rhywfaint o wybodaeth fersiwn, a Linux_x86_langpack-deb_cy.

Nawr newidiwch gyfeiriadur i'r cyfeiriadur sy'n cynnwys y pecynnau i'w gosod. Ar systemau Debian/Ubuntu y cyfeiriadur fydd DEBS. Ar systemau Fedora, openSUSE neu Mandriva RPMS fydd y cyfeiriadur.

O'r rheolwr ffeiliau Nautilus, rhowch glic de yn y cyfeiriadur a dewis y gorchymyn "Agor mewn terfynell". Yn y ffenest derfynell rydych newydd ei hagor, gweithredwch yr orchymyn i osod y pecyn iaith (gyda'r holl orchmynion isod, efallai y byddwch yn derbyn cais i roi eich cyfrinair defnyddiwr gwraidd):

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Debian/Ubuntu: sudo-i dpkg *.deb

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Fedora : su -c 'yum install *.rpm'

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Mandriva : sudo urpmi *.rpm

Ar gyfer systemau eraill yn seiliedig ar RPM (openSUSE, ac ati.): rpm -Uvh *.rpm

Nawr cychwynnwch un o'r rhaglenni LibreOffice - Writer, er enghraifft. Ewch i'r ddewislen Offer a dewiswch Dewisiadau. Yn y blwch deialog Dewisiadau, cliciwch ar "Gosodiadau Iaith" ac yna cliciwch ar "Ieithoedd". Agorwch y rhestr "Rhyngwyneb Defnyddiwr" a dewiswch yr iaith yr ydych am ei osod. Os ydych yn dymuno, gwnewch yr un peth ar gyfer y "Gosodiadau Locale", yr "Arian rhagosodedig", a'r "Ieithoedd Rhagosodedig ar gyfer dogfennau".

Ar ôl addasu'r gosodiadau hynny, cliciwch ar Iawn. Bydd y blwch deialog yn cau, ac fe welwch neges yn dweud wrthych y bydd eich newidiadau ond yn cael eu hactifadu ar ôl i chi adael LibreOffice a dechrau eto (cofiwch hefyd adael CychwynCyflym os ydyw wedi dechrau).

Y tro nesaf y byddwch yn dechrau LibreOffice, bydd yn cychwyn yn yr iaith rydych wedi ei osod.

----------------------------------------------------------------------
Anawsterau wrth Gychwyn y Rhaglen
----------------------------------------------------------------------

Mae anawsterau cychwyn LibreOffice (e.e. rhaglen yn oedi) yn ogystal â phroblemau gyda'r sgrin fel rheol yn cael eu creu gan yrrwr y cerdyn graffeg. Os yw'r problemau hyn yn codi diweddarwch yrrwr eich cerdyn graffeg neu ddefnyddio'r gyrrwr sy'n nghlwm wrth eich system weithredu. Mae modd datrys anawsterau dangos gwrthrychau 3D drwy ddiffodd y dewis "Defnyddio OpenGL" yn 'Offer - Dewisiadau - LibreOffice - Golwg - Golwg 3D'.

----------------------------------------------------------------------
Bysellau Llwybr Byr
----------------------------------------------------------------------

Dim ond bysellau (cyfuniad bysellau) nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y system weithredu mae modd eu defnyddio yn LibreOffice. Os nad yw cyfuniad bysellau'n gweithio yn LibreOffice fel y disgrifir yn Cymorth LibreOffice, gwiriwch fod y llwybr byr yn cael ei ddefnyddio eisoes gan y system. I gywiro'r gwrthdaro, mae modd newid y bysellau neilltuwyd gan eich system weithredu. Fel arall, mae modd newid bron unrhyw un o'r bysellau neilltuwyd gan LibreOffice. Am ragor o wybodaeth ar y pwnc, ewch i Cymorth LibreOffice neu ddogfennaeth Cymorth eich system weithredu.

----------------------------------------------------------------------
Cloi Ffeiliau
----------------------------------------------------------------------

Mae cloi ffeiliau wedi ei alluogi fel rhan o LibreOffice. Ar rwydwaith sy'n defnyddio'r Network File System protocol (NFS), rhaid i'r daemon cloi ar gyfer clientiaid NFS fod yn weithredol. I atal cloi ffeiliau, golygwch y sgript soffice a newid y llinell "export SAL_ENABLE_FILE_LOCKING" to "# export SAL_ENABLE_FILE_LOCKING". Os ydych yn atal cloi ffeiliau, ni fydd mynediad ysgrifennu dogfen wedi ei gyfyngu i'r defnyddiwr agorodd y ddogfen y lle cyntaf.

----------------------------------------------------------------------
Perfformiad Graffigau
----------------------------------------------------------------------

Drwy ragosodiad, mae LibreOffice yn ffafrio graffeg del dros gyflymder. Os ydych yn profi graffeg araf, gall diffodd 'Offer - Dewisiadau - LibreOffice - Golwg - Defnyddio Gwrth-aliasing' fod o gymorth.

----------------------------------------------------------------------
Nodiadau Hygyrchedd Pwysig
----------------------------------------------------------------------

Am ragor o wybodaeth am nodweddion hygyrchedd o fewn LibreOffice, gweler http://www.libreoffice.org/accessibility/

----------------------------------------------------------------------
Cefnogaeth i Ddefnyddwyr
----------------------------------------------------------------------

Mae'r brif dudalen cymorth http://www.libreoffice.org/support/ yn cynnig amrywiaeth o bosibiliadau i dderbyn cymorth gyda LibreOffice. Efallai fod eich cwestiwn eisoes wedi cael ei hateb - edrychwch ar y Fforwm Cymunedol ar http://www.documentfoundation.org/nabble/ neu chwiliwch archifau rhestr e-bostio 'users@libreoffice.org' yn http://www.libreoffice.org/lists/users/. Fel arall, gallwch anfon eich cwestiynau at users@libreoffice.org. Os hoffech danysgrifio i'r rhestr (i gael ymatebion e-bost), anfon e-bost gwag at: users+subscribe@libreoffice.org.

Hefyd darllenwch adran Cwestiynau Cyffredin yn http://www.libreoffice.org/faq/.

----------------------------------------------------------------------
Adrodd Gwallau a Materion
----------------------------------------------------------------------

Bugzilla yw ein system ar gyfer adrodd, olrhain a datrys bygiau ar hyn o bryd, sy'n cael ei gynnal, diolch i https://bugs.libreoffice.org/. Rydym yn annog pob defnyddwyr i feddu'r hawl a bod croeso i roi gwybod am wallau a all godi ar eich platfform penodol. Mae adrodd egnïol ar wallau yn un o'r cyfraniadau pwysicaf y gall y gymuned ddefnyddwyr ei wneud i ddatblygiad a gwelliant parhaus LibreOffice.

----------------------------------------------------------------------
Ymuno
----------------------------------------------------------------------

Hoffai Cymuned LibreOffice fanteisio ar eich ymwneud gweithgar yn natblygiad y project cod agored hwn.

Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn rhan werthfawr o'r broses ddatblygu'r rhaglenni a hoffem eich annog i gymryd rhan hyd yn oed yn fwy gweithgar gyda golwg ar fod yn gyfrannwr tymor hir i'r gymuned. Ymunwch a darllen y dudalen cyfrannu yn http://www.libreoffice.org/contribution/

Sut i Gychwyn
----------------------------------------------------------------------

Y ffordd orau i ddechrau cyfrannu yw drwy danysgrifio i un neu fwy o'r rhestrau e-bostio, llechu am ychydig, ac yn raddol ddefnyddio'r post archifau i ymgyfarwyddo â llawer o'r pynciau sy'n cael eu trafod ers i'r cod ffynhonnell LibreOffice gael ei rhyddhau yn ôl yn Hydref 2000. Pan fyddwch yn gyfforddus, dim ond angen i chi gyflwyno eich hun sydd ei angen ac ymuno'r gwaith. Os ydych yn gyfarwydd â Phrosiectau Cod Agored, edrychwch ar ein rhestr Gwneud a gweld os oes unrhyw beth yr hoffech chi gyfrannu tuag ato http://www.libreoffice.org/develop/.

Tanysgrifo
----------------------------------------------------------------------

Dyma rai o'r rhestrau e-bostio at y gallwch danysgrifio iddynt http://www.libreoffice.org/contribution/

* Newyddion: announce@documentfoundation.org *ar gyfer pob defnyddwyr* (traffig ysgafn)
* Rhestr prif ddefnyddiwr: users@global.libreoffice.org *ffordd hawdd i wrando ar drafodaethau* (defnydd trwm)
* Project marchnata: marketing@global.libreoffice.org *datblygiad+* (trymhau)
* Rhestr cyffredinoldatblygwr: libreoffice@lists.freedesktop.org (traffig trwm)

Ymuno gydag un neu fwy o Brojectau
----------------------------------------------------------------------

Mae modd i chi wneud cyfraniad sylweddol i'r project cod agored pwysig hwn hyd yn oed os mai dim ond profiad bychan o gynllunio meddalwedd neu godio sydd gennych. Ie, chi!

Gobeithio y byddwch yn mwynhau gweithio gyda LibreOffice 5.3 ac y gwnewch ymuno gyda ni ar-lein.

Cymuned LibreOffice

----------------------------------------------------------------------
Cod Ffynhonnell Defnyddwyr / Addaswyd
----------------------------------------------------------------------

Hawlfraint Cyfrannau 1998, 1999 James Clark. Hawlfraint Cyfrannau 1996, 1998 Netscape Communications Corporation.